Islwyn Ffowc Elis (Q61888)

From Semantic Name Authority Repository Cymru
Jump to navigation Jump to search
British writer and politician
Language Label Description Also known as
English
Islwyn Ffowc Elis
British writer and politician

    Statements

    0 references
    0 references
    0 references
    0 references
    0 references
    0 references
    0 references
    17 November 1924Gregorian
    22 January 2004
    0 references
    0 references
    Nofelydd oedd Islwyn Ffowc Elis a ddaeth i amlygrwydd yn dilyn cyhoeddi ei nofel boblogaidd, Cysgod y Cryman. Ynghyd ⠢od yn awdur toreithiog roedd hefyd yn weinidog, yn gynhyrchydd gyda'r BBC, ac yn ddarlithydd.Fe'i ganed ar 17 Tachwedd 1924 yn Wrecsam, yn fab i Edward Ifor a Catherine Ellis (nee Kenrick). Fe'i magwyd ar fferm Aberwiel, Nantyr, yn Nyffryn Ceiriog, dyffryn y tynnodd llawer o'i ysbrydoliaeth ohono fel awdur. Priododd Eirlys Rees Owen o Dywyn, a ganwyd eu merch, Sian yn 1960.Cafodd ei addysg yn Ysgol Elfennol Nantyr, ac Ysgol Ramadeg Llangollen, cyn ennill gradd BA yn y celfyddydau yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor yn 1946. Enillodd wobrau yn Eisteddfod Gadeiriol Myfyrwyr Cymru ar gystadleuaeth y ddrama yn 1945 a 1946, a bu'n weithgar yn cyfansoddi a chynhyrchu anterliwtiau yn y Coleg. Bu'n wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholegau Diwinyddol Aberystwyth a'r Bala lle enillodd radd BD mewn diwinyddiaeth yn 1949. Cafodd ei ordeinio yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1950 a bu'n weinidog gyda'r enwad yn Llanfair Caereinion, a Meifod, Sir Drefaldwyn, ac yn Niwbwrch, M??cyn penderfynu gadael y weinidogaeth yn 1956 er mwyn llenydda. Yn 1963 aeth yn Ddarlithydd yn y Gymraeg i Goleg Y Drindod, Caerfyrddin, ac fe fu'r cyfnod a ddilynodd yn gymharol dawel o ran llenydda ond yn brysur yn wleidyddol. Bu'n ymgeisydd Seneddol dros Blaid Cymru yn etholaeth Trefaldwyn yn Isetholiad 1962 ac Etholiad Cyffredinol 1964, ac roedd yn weithgar gydag ymgyrchoedd Plaid Cymru. Ef oedd Cyfarwyddwr Cyhoeddiadau Plaid Cymru o tua 1962 i 1969, a bu'n paratoi llawer o lenyddiaeth wleidyddol ar gyfer Gwynfor Evans. Yn dilyn ei ymddeoliad cyhoeddwyd cyfrol o'i ganeuon ysgafn Caneuon Islwyn Ffowc Elis (1988), maes yr oedd ganddo ddiddordeb mawr ynddo rhwng 1945 a 1970. Yn 1993 derbyniodd radd D.Litt er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.Roedd yn awdur dra chynhyrchiol, ac fe ysgrifennodd amryw raglenni radio a storïau, ac erthyglau ar grefydd a gwleidyddiaeth. Bu'n gyd-olygydd Y Ddraig Goch, cylchgrawn Plaid Cymru, a Taliesin, cylchgrawn yr Academi Gymreig. Enillodd nifer o wobrwyon yn yr Eisteddfod Genedlaethol am farddoniaeth, storïau byrion, ysgrifau a dramâu, a bu'n beirniadu mewn nifer o Eisteddfodau. Bu farw ym mis Ionawr 2004.
    0 references
    0 references
    0 references