Canllawiau
Jump to navigation
Jump to search
Hanfodion
- Mae data cysylltiedig yn gweithio trwy gysylltu endidau data i greu data strwythuredig cyfoethog ar ffurf dreblai. Er enghraifft,
1. John James Jones Q67878 2. addysgwyd yn (P23) 3. Prifysgol Aberystwyth Q32313.
- Mae creu data manwl yn arwain at set ddata fwy rhyng-gysylltiedig.
- Wrth greu eitemau newydd (cliciwch 'New Item' yn y ddewislen ar y chwith) ar gyfer pobl neu leoedd mae'n bosib na welwch y data sydd ei angen arnoch i'w disgrifio, megis y lle y cawsant eu geni neu eu haddysgu. Pan fydd hyn yn digwydd dylech geisio greu eitem ar wahân ar gyfer yr endid hwnnw er mwyn cwblhau eich eitem data, ond gwnewch yn siŵr eich bod wedi chwilio'r gronfa ddata yn drylwyr yn gyntaf er mwyn osgoi creu eitemau dyblyg. Gallwch archwilio eitemau tebyg er mwyn gweld sut y dylid strwythuro'r data, neu edrychwch ar y tablau isod.
- Wrth greu unrhyw eitem newydd dylech bob amser chwilio am, a chynnwys y dynodwr Wikidata, os yw'n bodoli, gen defnyddio URI Wikidata (P62). Mae hyn yn helpu i gadw'r ddwy set ddata wedi'u halinio ac yn caniatáu ymholiadau ffederal ar draws y ddwy gronfa ddata.
- Gallwch weld rhestr o bob nodwedd (property) a ddefnyddir yn y gronfa [[Special:ListProperties|yma]
- Os ydych yn darganfod eitemau dyblyg mae modd uno nhw trwy ddefnyddio'r Merge Tool. Mae angen uno'r eitem diweddarach (rhif Q uwch) mewn i'r eitem henach (rhif Q is).
- Peidwch a chreu nodweddion (properties) newydd hen trafod efo SNARC ADMIN.
Pobl
Teitl | ID | Math o ddata | Disgrifiad | Gofyniad |
---|---|---|---|---|
Enghraifft o'r canlynol | P7 | Eitem | Yw defnyddio efo bod dynol ar gyfer pobl | Bob amser |
Rhyw | P13 | Eitem | Defnyddio efo gwrywaidd,benywaidd,rhywedd anneuaidd,rhyngrywioldeb,menyw drawsryweddol or dyn trawsryweddol | Bob amser |
Enw cyntaf | P15 | Eitem | chwilio am, neu greu, eitem ar gyfer enw cyntaf y person | Bob amser |
Cyfenw | P16 | Eitem | chwilio am, neu greu, eitem ar gyfer cyfenw'r person | Bob amser |
Cenedligrwydd | P14 | Eitem | defnyddiwch unrhyw gwlad neu genedl sofran (gan gynnwys Cymru!) | Gwell |
Galwedigaeth | P25 | Eitem | defnyddiwch galwedigaethau. Dewiswch y mwyaf penodol (e.e. ar gyfer beirdd Cymraeg defnyddiwch bardd nid bardd (poet) neu ysgrifennwr) | Gwell |
Dyddiad geni | P17 | Dyddiad | dyddiad geni person. Gall dyddiadau fod yn fanwl gywir neu fis, blwyddyn, degawd, canrif ayyb. Mae modd ychwanegu goleddfwr (qualifier) i dyddiadau, sef cywirdeb - circa | Gwell |
Dyddiad marw | P18 | Dyddiad | dyddiad marw person. Gall dyddiadau fod yn fanwl gywir neu fis, blwyddyn, degawd, canrif ayyb. Mae modd ychwanegu goleddfwr (qualifier) i dyddiadau, sef cywirdeb - circa | Gwell |
Addysgwyd yn | P23 | Eitem | defnyddiwch unrhyw sefydliad addysg. Peidwch a defnyddio trefi, pentrefi ayyb | Dewisol |
Man geni | P21 | Eitem | Gall fod yn unrhyw le (e.e. adeilad, dref, dinas, gwlad) | Dewisol |
Man marw | P22 | Eitem | Gall fod yn unrhyw le (e.e. adeilad, dref, dinas, gwlad) | Dewisol |
Brawd neu chwaer | P52 | Eitem | Defnyddiwch ar gyfer brawd neu chwaer y pwnc (cofiwch ychwanegu 'brawd neu chwaer' i'r eitem targed hefyd) | Dewisol |
Tad | P53 | Eitem | Defnyddiwch ar gyfer tad y pwnc. Ar gyfer llys-riant, defnyddiwch llys-riant. (Cofiwch hefyd i ychwanegu'r mynegiad gwrthgyfartal (plentyn) i'r eitem targed) | Dewisol |
Plentyn | P54 | Eitem | defnyddiwch yr eitem ar gyfer plentyn biolegol y gwrthrych. (cofiwch hefyd i ychwanegu'r mynegiadau gwrthgyfartal; (Tad and or Mam) i'r eitem targed) | Dewisol |
Mam | P55 | Eitem | Defnyddiwch ar gyfer mam y pwnc. Ar gyfer llys-riant, defnyddiwch llys-riant. (Cofiwch hefyd i ychwanegu'r mynegiad gwrthgyfartal (plentyn) i'r eitem targed) | Dewisol |
Priod | P56 | Eitem | Defnyddiwch ar gyfer priod y pwnc. Ar gyfer partneri di-briod defnyddiwch cymar. (Cofiwch hefyd i ychwanegu'r mynegiad gwrthgyfartal (priod) i'r eitem targed) | Dewisol |
Perthynas (teulu) | P59 | Eitem | Aelod o teulu tu hwnt i rhienu a plant megus cefndir, taid a nain, hynafiad ayyb | Dewisol |
Dyddiad bedydd | P60 | Dyddiad | Y dyddiad y cafodd person ei fedyddio. Yn arbennig o ddefnyddiol pan na ellir dod o hyd i ddyddiad geni | Dewisol |
Dyddiad claddu neu amlosgi | P61 | Dyddiad | Y dyddiad y cafodd person ei gladdu neu ei amlosgi. Yn arbennig o ddefnyddiol pan na ellir dod o hyd i ddyddiad marwolaeth | Dewisol |
Iaith y person | P20 | Eitem | defnyddiwch unrhyw [[Special:WhatLinksHere/Item:Q949|iaith] | Dewisol |
Bywgraffiad byr | P19 | Testun rhydd | Am unrhyw destun rhydd sy'n gysylltiedig â chofnodion awdurdod | Dewisol |
Ffugenw | P24 | Testun rhydd | enw arall a ddefnyddir gan rywun, yn aml i lofnodi gweithiau creadigol | Dewisol |
Dosbarth cymdeithasol | P81 | Eitem | dosbarth cymdeithasol a cydnabyddir mewn cyfraith draddodiadol neu wladwriaethol. Ar hyn o bryd dim ond yn cael ei ddefnyddio ar y cyd â caethfeistr. | Dewisol |
Lleoedd
Teitl | ID | Math o ddata | Disgrifiad | Gofyniad |
---|---|---|---|---|
Enghraifft o'r canlynol | P7 | Eitem | Defnyddio efo unrhyw fath o anheddiad dynol neu eitemau megus cofadeilad, tŷ or llyfrgell er mwyn disgrifio'r lle. Byddwch mor benodol ag y gallwch. Er enghraifft; ar gyfer eglwys defnyddiwch adeilad eglwys yn lle adeilad |
Bob amser |
Gwladwriaeth | P63 | Eitem | Y gwlad lle lleolir yr eitem. | Bob amser |
Cyfesurynnau'r lleoliad | P26 | Testun rhydd | ychwanegu cyfesurynnau degol y lle e.e. 52.414,-4.081 |
Bob amser |
Sir hanesyddol | P38 | Eitem | Ar gyfer lleoedd yn y DU defnyddiwch unrhyw sir hanesyddol Lloegr, sir hanesyddol Cymru neu sir hanesyddol y Deyrnas Unedig | Gwell |
Lleolir yn yr ardal weinyddol | P27 | Eitem | Defnyddiwch i nodi'r ardal weinyddol fwy y mae eitem yn bodoli ynddi. Fel arfer sir | Gwell |
Esgobaeth | P70 | Eitem | I'w ddefnyddio efo plwyfi eglwysol | Dewisol |
Eglwys plwyf | P71 | Eitem | ddefnyddir ar gyfer plwyfi eglwysig i ddynodi’r eglwys neu’r eglwysi sy’n gysylltiedig â phlwyf, neu’n gysylltiedig yn hanesyddol ag ef | Dewisol |
Ffynhonnell ffurf yr enw | P72 | Eitem | ffynhonnell lle cafwyd ffurf safonol yr enw (label). Crëwch eitem newydd i ddisgrifio'r ffynhonnell os nad yw un yn bodoli. Os nad oes ffurf safonol, dylid tybio mai wikidata yw'r ffynhonnell. Yn yr achos yna peidiwch a defnyddio'r nodwedd yma. | Dewisol |
Lleoliad | P73 | Eitem | defnyddiwch i nodi lleoliad (dinas, tref, pentref ayyb) yr eitem | Dewisol |
Deiliad | P79 | Eitem | yn cael ei ddefnyddio i ddatgan y preswylydd/deiliaid presennol neu flaenorol (person neu sefydliad) adeilad, megus ty, capel neu gwesty | Dewisol |
Nodwyddion Dinodwr
Teitl | ID | Math o ddata | Disgrifiad | Gofyniad |
---|---|---|---|---|
URI Wikidata | P62 | Testun rhydd | the corresponding URI in Wikidata, starting with http://, NOT https:// ! Example: http://www.wikidata.org/entity/Q6682. Search Wikidata to find the equivalent item ID whenever possible. | Bob amser |
dynodwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru | P12 | Testun rhydd | identifier of persons, corporate entities and families in the National Library of Wales Archives and Manuscripts database | Dewisol |
ID Y Bywgraffiadur (EN) | P5 | Testun rhydd | Identifier for the Dictionary of Welsh Biography | Dewisol |
ID Y Bywgraffiadur (CY) | P6 | Testun rhydd | Identifier for the Dictionary of Welsh Biography | Dewisol |
Library of Congress authority ID | P11 | Testun rhydd | Library of Congress name authority (persons, families, corporate bodies, events, places, works and expressions) and subject authority identifier | Dewisol |
ISNI ID | P9 | Testun rhydd | International Standard Name Identifier for an identity | Dewisol |
VIAF ID | P10 | Testun rhydd | Identifier for the Virtual International Authority File database | Dewisol |
dynodwr Cadw (adeilad) | P68 | Testun rhydd | identifier for listed buildings in Wales | Dewisol |
dynodwr Coflein | P69 | Testun rhydd | identifier for an historic site, monument or building in the National Monuments Record of Wales (NMRW) database | Dewisol |
dynodwr Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru | P83 | Testun rhydd | identifier for place names in the Historic Place Names of Wales database | Dewisol |
dynodwr Cadw (heneb) | P84 | Testun rhydd | legacy identifier for CADW historic monuments | Dewisol |
Delweddau
Mae yna dwy ffordd i gysylltu delweddau efo eitemau
- May defnyddio delwedd Wikimedia Commons (P31) yn caniatau cysylltu delwedd trwy Comin Wikimedia. Mae modd chwilio am ddelwedd ar law neu trwy gopïo’r enw ffeil. Er enghraifft:
Wales Principal Areas Map.svg
- Os oes gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ddelwedd ddigidol sy'n darlunio testun yr eitem yn glir, gellir cysylltu hwn hefyd gan ddefnyddio Delwedd LlGC (P50) drwy ddefnyddio'r dynodwr parhaus ar gyfer y ddelwedd a geir trwy'r syllwr (Handle ID). Er enghraifft
10107/1131121
. Wedyn mae modd ychwanegu goleddfwr (qualifier) teitl y ddelwedd (P80) er mwyn rhannu teitl y delwedd. Gweler [enghraifft].