Canllawiau

From Semantic Name Authority Repository Cymru
Jump to navigation Jump to search

Hanfodion

  • Mae data cysylltiedig yn gweithio trwy gysylltu endidau data i greu data strwythuredig cyfoethog ar ffurf dreblai. Er enghraifft,
1. John James Jones Q67878 2. addysgwyd yn (P23) 3. Prifysgol Aberystwyth Q32313.  

  • Mae creu data manwl yn arwain at set ddata fwy rhyng-gysylltiedig.
  • Wrth greu eitemau newydd (cliciwch 'New Item' yn y ddewislen ar y chwith) ar gyfer pobl neu leoedd mae'n bosib na welwch y data sydd ei angen arnoch i'w disgrifio, megis y lle y cawsant eu geni neu eu haddysgu. Pan fydd hyn yn digwydd dylech geisio greu eitem ar wahân ar gyfer yr endid hwnnw er mwyn cwblhau eich eitem data, ond gwnewch yn siŵr eich bod wedi chwilio'r gronfa ddata yn drylwyr yn gyntaf er mwyn osgoi creu eitemau dyblyg. Gallwch archwilio eitemau tebyg er mwyn gweld sut y dylid strwythuro'r data, neu edrychwch ar y tablau isod.
  • Wrth greu unrhyw eitem newydd dylech bob amser chwilio am, a chynnwys y dynodwr Wikidata, os yw'n bodoli, gen defnyddio URI Wikidata (P62). Mae hyn yn helpu i gadw'r ddwy set ddata wedi'u halinio ac yn caniatáu ymholiadau ffederal ar draws y ddwy gronfa ddata.
  • Gallwch weld rhestr o bob nodwedd (property) a ddefnyddir yn y gronfa [[Special:ListProperties|yma]
  • Os ydych yn darganfod eitemau dyblyg mae modd uno nhw trwy ddefnyddio'r Merge Tool. Mae angen uno'r eitem diweddarach (rhif Q uwch) mewn i'r eitem henach (rhif Q is).
  • Peidwch a chreu nodweddion (properties) newydd hen trafod efo SNARC ADMIN.


Pobl

Pobl
Teitl ID Math o ddata Disgrifiad Gofyniad
Enghraifft o'r canlynol P7 Eitem Yw defnyddio efo bod dynol ar gyfer pobl Bob amser
Rhyw P13 Eitem Defnyddio efo gwrywaidd,benywaidd,rhywedd anneuaidd,rhyngrywioldeb,menyw drawsryweddol or dyn trawsryweddol Bob amser
Enw cyntaf P15 Eitem chwilio am, neu greu, eitem ar gyfer enw cyntaf y person Bob amser
Cyfenw P16 Eitem chwilio am, neu greu, eitem ar gyfer cyfenw'r person Bob amser
Cenedligrwydd P14 Eitem defnyddiwch unrhyw gwlad neu genedl sofran (gan gynnwys Cymru!) Gwell
Galwedigaeth P25 Eitem defnyddiwch galwedigaethau. Dewiswch y mwyaf penodol (e.e. ar gyfer beirdd Cymraeg defnyddiwch bardd nid bardd (poet) neu ysgrifennwr) Gwell
Dyddiad geni P17 Dyddiad dyddiad geni person. Gall dyddiadau fod yn fanwl gywir neu fis, blwyddyn, degawd, canrif ayyb. Mae modd ychwanegu goleddfwr (qualifier) i dyddiadau, sef cywirdeb - circa Gwell
Dyddiad marw P18 Dyddiad dyddiad marw person. Gall dyddiadau fod yn fanwl gywir neu fis, blwyddyn, degawd, canrif ayyb. Mae modd ychwanegu goleddfwr (qualifier) i dyddiadau, sef cywirdeb - circa Gwell
Addysgwyd yn P23 Eitem defnyddiwch unrhyw sefydliad addysg. Peidwch a defnyddio trefi, pentrefi ayyb Dewisol
Man geni P21 Eitem Gall fod yn unrhyw le (e.e. adeilad, dref, dinas, gwlad) Dewisol
Man marw P22 Eitem Gall fod yn unrhyw le (e.e. adeilad, dref, dinas, gwlad) Dewisol
Brawd neu chwaer P52 Eitem Defnyddiwch ar gyfer brawd neu chwaer y pwnc (cofiwch ychwanegu 'brawd neu chwaer' i'r eitem targed hefyd) Dewisol
Tad P53 Eitem Defnyddiwch ar gyfer tad y pwnc. Ar gyfer llys-riant, defnyddiwch llys-riant. (Cofiwch hefyd i ychwanegu'r mynegiad gwrthgyfartal (plentyn) i'r eitem targed) Dewisol
Plentyn P54 Eitem defnyddiwch yr eitem ar gyfer plentyn biolegol y gwrthrych. (cofiwch hefyd i ychwanegu'r mynegiadau gwrthgyfartal; (Tad and or Mam) i'r eitem targed) Dewisol
Mam P55 Eitem Defnyddiwch ar gyfer mam y pwnc. Ar gyfer llys-riant, defnyddiwch llys-riant. (Cofiwch hefyd i ychwanegu'r mynegiad gwrthgyfartal (plentyn) i'r eitem targed) Dewisol
Priod P56 Eitem Defnyddiwch ar gyfer priod y pwnc. Ar gyfer partneri di-briod defnyddiwch cymar. (Cofiwch hefyd i ychwanegu'r mynegiad gwrthgyfartal (priod) i'r eitem targed) Dewisol
Perthynas (teulu) P59 Eitem Aelod o teulu tu hwnt i rhienu a plant megus cefndir, taid a nain, hynafiad ayyb Dewisol
Dyddiad bedydd P60 Dyddiad Y dyddiad y cafodd person ei fedyddio. Yn arbennig o ddefnyddiol pan na ellir dod o hyd i ddyddiad geni Dewisol
Dyddiad claddu neu amlosgi P61 Dyddiad Y dyddiad y cafodd person ei gladdu neu ei amlosgi. Yn arbennig o ddefnyddiol pan na ellir dod o hyd i ddyddiad marwolaeth Dewisol
Iaith y person P20 Eitem defnyddiwch unrhyw [[Special:WhatLinksHere/Item:Q949|iaith] Dewisol
Bywgraffiad byr P19 Testun rhydd Am unrhyw destun rhydd sy'n gysylltiedig â chofnodion awdurdod Dewisol
Ffugenw P24 Testun rhydd enw arall a ddefnyddir gan rywun, yn aml i lofnodi gweithiau creadigol Dewisol
Dosbarth cymdeithasol P81 Eitem dosbarth cymdeithasol a cydnabyddir mewn cyfraith draddodiadol neu wladwriaethol. Ar hyn o bryd dim ond yn cael ei ddefnyddio ar y cyd â caethfeistr. Dewisol

Lleoedd

Lleoedd
Teitl ID Math o ddata Disgrifiad Gofyniad
Enghraifft o'r canlynol P7 Eitem Defnyddio efo unrhyw fath o anheddiad dynol neu eitemau megus cofadeilad, or llyfrgell er mwyn disgrifio'r lle. Byddwch mor benodol ag y gallwch.
Er enghraifft; ar gyfer eglwys defnyddiwch adeilad eglwys yn lle adeilad
Bob amser
Gwladwriaeth P63 Eitem Y gwlad lle lleolir yr eitem. Bob amser
Cyfesurynnau'r lleoliad P26 Testun rhydd ychwanegu cyfesurynnau degol y lle e.e.
52.414,-4.081
Bob amser
Sir hanesyddol P38 Eitem Ar gyfer lleoedd yn y DU defnyddiwch unrhyw sir hanesyddol Lloegr, sir hanesyddol Cymru neu sir hanesyddol y Deyrnas Unedig Gwell
Lleolir yn yr ardal weinyddol P27 Eitem Defnyddiwch i nodi'r ardal weinyddol fwy y mae eitem yn bodoli ynddi. Fel arfer sir Gwell
Esgobaeth P70 Eitem I'w ddefnyddio efo plwyfi eglwysol Dewisol
Eglwys plwyf P71 Eitem ddefnyddir ar gyfer plwyfi eglwysig i ddynodi’r eglwys neu’r eglwysi sy’n gysylltiedig â phlwyf, neu’n gysylltiedig yn hanesyddol ag ef Dewisol
Ffynhonnell ffurf yr enw P72 Eitem ffynhonnell lle cafwyd ffurf safonol yr enw (label). Crëwch eitem newydd i ddisgrifio'r ffynhonnell os nad yw un yn bodoli. Os nad oes ffurf safonol, dylid tybio mai wikidata yw'r ffynhonnell. peidwch a defnyddio heblaw bod awdurdod cydnabyddedig wedi cyhoeddi ffurf safonol o'r enw Dewisol
Lleoliad P73 Eitem defnyddiwch i nodi lleoliad (dinas, tref, pentref ayyb) yr eitem Dewisol
Deiliad P79 Eitem yn cael ei ddefnyddio i ddatgan y preswylydd/deiliaid presennol neu flaenorol (person neu sefydliad) adeilad, megus ty, capel neu gwesty Dewisol

Nodwyddion Dinodwr

Dynodwyr
Teitl ID Math o ddata Disgrifiad Gofyniad
URI Wikidata P62 Testun rhydd yr URI cyfatebol yn Wikidata, gan ddechrau gyda http://, NID https:// ! Engraifft:http://www.wikidata.org/entity/Q6682. Chwiliwch Wikidata Er mwyn darganfod y Qid ble bynnag mae'n posib. Bob amser
dynodwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru P12 Testun rhydd dynodwr ar gyfer pobol, sefydliadau a teuluoedd yn catalog archifau a llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru Dewisol
ID Y Bywgraffiadur (EN) P5 Testun rhydd dynodwr ar gyfer erthyglau Saesneg yn y Bywgraffiadur. Gall defnyddio'r goleddfwr dyddiad cyhoeddi er mwyn nodi dyddiad cyhoeddi'r erthygl Dewisol
ID Y Bywgraffiadur (CY) P6 Testun rhydd dynodwr ar gyfer erthyglau Cymraeg yn y Bywgraffiadur. Gall defnyddio'r goleddfwr dyddiad cyhoeddi er mwyn nodi dyddiad cyhoeddi'r erthygl Dewisol
Library of Congress authority ID P11 Testun rhydd dynodwr enwau awdurdodol Library of Congress (pobl, teuluoedd, sefydliadau, digwyddiadau, lleoedd, gweithiau a mynegiadau) Dewisol
ISNI ID P9 Testun rhydd International Standard Name Identifier for an identity Dewisol
VIAF ID P10 Testun rhydd dynodwr y Virtual International Authority File database Dewisol
dynodwr Cadw (adeilad) P68 Testun rhydd dynodwr ar gyfer adeiladau cofrestredig yng Nghymru Dewisol
dynodwr Coflein P69 Testun rhydd dynodwr ar gyfer adeiladai, safleoedd a henebion hanesyddol yn gronfa'r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Dewisol
dynodwr Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru P83 Testun rhydd dynodwr ar gyfer enwau lleoedd yng nghronfa ddata Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru Dewisol
dynodwr Cadw (heneb) P84 Testun rhydd hen dynodwr ar gyfer henebion hanesyddol CADW Dewisol

Delweddau

Mae yna dwy ffordd i gysylltu delweddau efo eitemau

  1. May defnyddio delwedd Wikimedia Commons (P31) yn caniatau cysylltu delwedd trwy Comin Wikimedia. Mae modd chwilio am ddelwedd ar law neu trwy gopïo’r enw ffeil. Er enghraifft: Wales Principal Areas Map.svg
  2. Os oes gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ddelwedd ddigidol sy'n darlunio testun yr eitem yn glir, gellir cysylltu hwn hefyd gan ddefnyddio Delwedd LlGC (P50) drwy ddefnyddio'r dynodwr parhaus ar gyfer y ddelwedd a geir trwy'r syllwr (Handle ID). Er enghraifft 10107/1131121. Wedyn mae modd ychwanegu goleddfwr (qualifier) teitl y ddelwedd (P80) er mwyn rhannu teitl y delwedd. Gweler [enghraifft].