Ned Thomas (Q62070)

From Semantic Name Authority Repository Cymru
Revision as of 12:56, 11 December 2023 by Jason.nlw (talk | contribs) (‎Changed an Item)
Jump to navigation Jump to search
British writer and literary critic
Language Label Description Also known as
English
Ned Thomas
British writer and literary critic

    Statements

    0 references
    0 references
    0 references
    0 references
    0 references
    0 references
    0 references
    1936
    0 references
    0 references
    0 references
    0 references
    0 references
    0 references
    0 references
    0 references
    Mae Edward Morley (Ned) Thomas yn awdur, darlithydd, newyddiadurwr, cyhoeddwr ac ymchwilydd i ieithoedd lleiafrifol. Ganwyd yn Little Lever, Sir Gaerhirfryn, ar 11 Mehefin 1936, i rieni o Gymru, a cafodd ei fagu yn Lloegr, Cymru, yr Almaen a'r Swisdir. Astudiodd llenyddiaeth Saesneg yn Rhydychen ac aeth ymlaen i ddarlithio ar Saesneg ym Mhrifysgol Salamanca, 1960-1964, ac ym Mhrifysgol Moscow, 1966-1967. Yn y 1960au hwyr yn Llundain gweithiodd i'r Times, ac am gyfnod ef oedd golygydd Angliya, cylchgrawn Rwsieg wedi ei ariannu gan lywodraeth Prydain.Symudodd gyda'i deulu i Lwynypiod, sir Aberteifi, yn 1969, gan sefydlu'r cylchgrawn Planet: The Welsh Internationalist yno gyda'i wraig Sara. Yn yr un cyfnod cafodd swydd darlithydd yn yr Adran Saesneg ym Mrifysgol Cymru Aberystwyth. Roedd yn un o sylfaenwyr Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant yn Aberystwyth yn 1988. Symudodd i Gaerdydd yn 1990 i fod yn Gyfarwyddwr ar Wasg Prifysgol Cymru. Dychwelodd i Aberystwyth i fyw ar ôl ymddeol o'r swydd honno yn 1998.Ei brif gyhoeddiadau yw Orwell (Caeredin, 1965), The Welsh Extremist (Llundain, 1971), Derek Walcott: Poet of the Islands (Caerdydd, 1980), Waldo (Caernarfon, 1985) a Bydoedd: Cofiant Cyfnod (Talybont, 2010).
    0 references
    0 references
    0 references