Edward Tegla Davies (Q60150)

From Semantic Name Authority Repository Cymru
Jump to navigation Jump to search
Welsh writer (1880-1967)
  • Edward Tegla
Language Label Description Also known as
English
Edward Tegla Davies
Welsh writer (1880-1967)
  • Edward Tegla

Statements

0 references
0 references
0 references
0 references
0 references
0 references
0 references
Ganwyd y llenor Edward Tegla Davies yn Llandegla-yn-Iâl ar 31 Mai 1880 yn fab i chwarelwr. Bu’n ddisgybl-athro yn ysgol Bwlchgwyn gan ddod o dan ddylanwad athro ifanc o’r enw Tom Arfor Davies a fu’n gyfrifol am ei ysbrydoli mewn hanes a llenyddiaeth Cymru, Yn dilyn ei dröedigaeth penderfynodd fynd i’r weinidogaeth gan dderbyn hyfforddiant yng Ngholeg Didsbury ym Manceinion. Bu’n weinidog gyda’r Wesleiaid mewn nifer o eglwysi yng Nghymru a Lloegr. Priododd Jane Eleanor (Nel) Evans yn 1908 a ganwyd tri o blant iddynt – Dyddgu, Arfor a Gwen. Ymddeolodd yn 1946 i Fangor oherwydd salwch ei wriag a bu hi farw yn 1948. Bu’n olygydd Y Winllan, 1920-1928, Yr Efrydydd, 1931-1935 a Chyfres Pobun, 1944-1950. Ysgrifennodd golofn wythnosol i’r Herald Cymraeg, 1946-1953. Cyhoeddwyd y rhan fwyaf o’i waith fel cyfresi mewn cyfnodolion cyn eu cyhoeddi’n llyfrau a chyhoeddwyd Hunangofiant Tomi, ei lyfr cyntaf, yn 1912. Bu farw Tegla Davies ar 9 Hydref 1967. Gosodwyd plac er cof amdano yn 1970 ar wal y cartref lle’i ganwyd ef yn Llandegla.
0 references
Tegla.jpg
442 × 600; 101 KB
0 references
0 references
0 references