Ambrose Bebb (Q61421)

From Semantic Name Authority Repository Cymru
Jump to navigation Jump to search
British historian
  • William Ambrose Bebb
  • W. Ambrose Bebb
Language Label Description Also known as
English
Ambrose Bebb
British historian
  • William Ambrose Bebb
  • W. Ambrose Bebb

Statements

0 references
0 references
0 references
0 references
0 references
0 references
4 July 1894Gregorian
1 reference
27 April 1955
1 reference
0 references
0 references
0 references
Ganwyd yr awdur a'r hanesydd William Ambrose Bebb yng Ngoginan, Ceredigion, yn 1894. Graddiodd o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1918 cyn treulio dwy flynedd arall yno yn astudio ar gyfer gradd MA. Aeth i Brifysgol Rennes yn 1920 ond symudodd i'r Sorbonne ym Mharis cyn pen ychydig wythnosau lle bu'n fyfyriwr ac yn ddarlithydd a lle daeth dan ddylanwad Charles Maurras a'r Action Francaise, ac y daeth yn edmygydd mawr o Ffrainc a'i diwylliant. Ymunodd â staff Adran Hanes y Coleg Normal, Bangor, yn 1925, gan ddod, yn ddiweddarach, yn bennaeth yr Adran. Cyhoeddodd ei fyfyrdodau ar wareiddiad Ewrop yn y gyfrol Crwydro'r Cyfandir (1936). Daeth i adnabod Llydaw yn dda a rhoddodd adroddiadau ar ei gysylltiadau â'r mudiad cenedlaethol yn y wlad honno mewn tri llyfr a gyhoeddwyd rhwng 1929 a 1941. Ysgrifennodd gyfres o bum llyfr ar hanes Cymru, a gyhoeddwyd rhwng 1932 a 1950, ac y mae llawysgrifau'r cyfrolau hynny ymysg y papurau hyn. Yn 1924 sefydlodd y Mudiad Cymreig ar y cyd â Saunders Lewis a Griffith John Williams, mudiad a ddatblygodd yn ddiweddarach i fod yn Blaid Genedlaethol Cymru ac a ddaeth wedi hynny yn Blaid Cymru. Parhaodd i fod yn un o gefnogwyr selocaf y Blaid hyd at yr Ail Ryfel Byd ac fe safodd yn ymgeisydd drosti yn Arfon yn Etholiad Cyffredinol 1945. Tua diwedd ei oes, fodd bynnag, oerodd ei s1/4l wleidyddol a rhoddai bwyslais cynyddol ar egwyddorion Cristnogol, fel y dengys ei lyfr olaf, Yr Argyfwng, a gyhoeddwyd yn 1956, ar ôl ei farwolaeth.Priododd yn 1931 ag Eluned Pierce Roberts, Llangadfan, a bu iddynt saith o blant. Gwnaeth y teulu eu cartref yn Llwydiarth, Ffordd Ffriddoedd, Bangor Uchaf. Bu farw Ambrose Bebb yn sydyn ar 27 Ebrill 1955.
0 references
0 references
0 references
William Ambrose Bebb
0 references