Lewis Valentine (Q61511)

From Semantic Name Authority Repository Cymru
Jump to navigation Jump to search
Welsh politician
  • Lewis Edward Valentine
Language Label Description Also known as
English
Lewis Valentine
Welsh politician
  • Lewis Edward Valentine

Statements

0 references
0 references
0 references
0 references
0 references
0 references
1 June 1893Gregorian
0 references
0 references
0 references
0 references
0 references
Ganwyd y Parch Lewis Valentine (1893-1986), gweinidog y Bedyddwyr, heddychwr a chenedlaetholwr, yn Llanddulas, sir Ddinbych. Bu'n astudio Cymraeg ac ieithoedd Semitig yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac yn ddiweddarach cyhoeddodd waith ar destunau Hebraeg o'r Hen Destament. Gwasanaethodd Valentine fel cynorthwywr meddygol gyda'r fyddin yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ond yn dilyn cyrch nwy yn 1917 symudodd i Blackpool, swydd Gaerhirfryn, yn 1918, a dychwelodd i'r coleg ym Mangor yn 1919. Yn 1921 ordeiniwyd ef yn weinidog capel Tabernacl, Llandudno, sir Gaernarfon, a bu yno tan 1947, pan symudodd i gapel Seion, Ponciau, Rhosllannerchrugog, sir Ddinbych, lle safodd tan ei ymddeoliad yn 1970. Bu farw yn 1986. Yr oedd Lewis Valentine yn un o sylfaenwyr Plaid Genedlaethol Cymru (Plaid Cymru yn ddiweddarach), a ffurfiwyd ym Mhwllheli yn 1925, a safodd fel ymgeisydd cyntaf y blaid, yn etholaeth Caernarfon, yn 1929. Ef hefyd oedd ei Llywydd cyntaf, a'r Is-Lywydd yn 1936 pan gymerodd ran, gyda Saunders Lewis (1893-1985) a D. J. Williams, mewn gweithred symbolaidd o losgi Ysgol Fomio i Beilotiaid y Llu Awyr Brenhinol a oedd newydd ei sefydlu ym Mhenyberth, ger Pwllheli, Llŷn, sir Gaernarfon, fel protest heddychlon, cenedlaetholgar ac amgylcheddol. Ildiodd y protestwyr i'r heddlu, gan amddiffyn ei gweithredu ar dir moesol. Symudwyd yr achos i'r Old Bailey, wedi i reithwyr yng Nghaernarfon fethu â chytuno ar ddedfryd. Dedfrydwyd y tri i naw mis o garchar; cawsant gefnogaeth a hysbysrwydd eang. Yr oedd yn ffrind i Lewis, Williams a Kate Roberts (1891-1985) ar hyd ei oes. Yn 1983, golygodd John Emyr y gyfrol 'Lewis Valentine yn cofio'. Yn 1988, ar ôl ei farwolaeth, cyhoeddwyd 'Dyddiadur milwr a gweithiau eraill' (Llandysul), sef hanes ei brofiadau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
0 references
Parch Lewis Valentine yn ifanc.jpg
2,316 × 2,872; 1.14 MB
0 references
0 references
0 references