Zonia Bowen (Q63922)

From Semantic Name Authority Repository Cymru
Jump to navigation Jump to search
author and free-thinker
Language Label Description Also known as
English
Zonia Bowen
author and free-thinker

    Statements

    0 references
    0 references
    0 references
    23 April 1926Gregorian
    0 references
    0 references
    0 references
    Ganwyd Zonia M. Bowen yn Norfolk a'i magu yn Swydd Efrog ac fe ddysgodd Cymraeg wedi iddi symud i Gymru i fyw. Bu'n ffigwr blaenllaw yn hanes sefydlu Merched y Wawr ac yn weithgar fel yr Ysgrifennydd Cenedlaethol cyntaf, 1967-1970, golygydd Y Wawr, 1968-1975, ac fel Llywydd Anrhydeddus hyd nes iddi ymddiswyddo yn 1975 yn dilyn dadl rhyngddi hi ac aelodau eraill ynglŷn â lle crefydd yng nghyfarfodydd swyddogol y Mudiad.Sefydlwyd Merched y Wawr yn Y Parc, ger Y Bala, ym mis Mai 1967 yn dilyn anghydfod ynglŷn â'r iaith rhwng Sefydliad y Merched Y Parc a swyddogion sirol y Sefydliad yn Rhagfyr 1966. Er bod aelodau cangen Y Parc yn cynnal eu cyfarfodydd a'u gweithgareddau oll drwy'r Gymraeg, yr oedd disgwyl i holl ddogfennau'r Sefydliad fod yn y Saesneg. Codwyd y mater gan Zonia M. Bowen, Ysgrifennydd y Sefydliad ar y pryd, ond gwrthododd swyddogion sirol y Sefydliad wrando ar ei chwynion. Yn y diwedd, er nad oeddynt wedi bwriadu ar hyn yn wreiddiol, torrodd aelodau Y Parc i ffwrdd o Sefydliad y Merched gan benderfynu parhau i gwrdd bob mis yn annibynnol.Wedi ychydig fisoedd, awgrymodd Zonia M. Bowen wrth aelodau Y Parc y dylid cychwyn mudiad newydd i ferched Cymru oedd yn rhoi blaenoriaeth i'r Gymraeg. Y bwriad oedd dechrau'r ymgyrch yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala ond, wedi i'r wasg adrodd y stori, fe sefydlwyd cangen gyntaf Merched y Wawr yn Y Parc ym mis Mai 1967. O fewn wythnos yr oedd cangen arall wedi'i sefydlu yn Y Ganllwyd, ger Dolgellau, a chynhaliwyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf ar faes yr Eisteddfod yn Y Bala ychydig yn ddiweddarach.
    0 references
    0 references