Griffith John Williams (Q67329)

From Semantic Name Authority Repository Cymru
Jump to navigation Jump to search
Historian of Welsh literature
  • G. J. Williams
Language Label Description Also known as
English
Griffith John Williams
Historian of Welsh literature
  • G. J. Williams

Statements

0 references
0 references
0 references
0 references
0 references
0 references
19 July 1892Gregorian
0 references
Yr oedd Griffith John Williams (1892-1963) yn un o ysgolheigion ac athrawon Cymraeg mwyaf ei gyfnod.Fe'i ganwyd yng Nghellan Court, sef Swyddfa Post Cellan, Ceredigion, 19 Gorffennaf 1892, yn fab i John ac Anne (nee Griffiths) Williams. Derbyniodd ei addysg gynnar yn ysgolion Cellan a Thregaron. Yn 1911, wedi derbyn Ysgoloriaeth Cynddelw, aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio yn y Gymraeg yn 1914.Rhwng 1914 ac 1915 bu'n athro yn ysgol sir Dolgellau, ac yna, rhwng 1915 ac 1916, yn ysgol sir y Porth, Rhondda. Yna dychwelodd i Aberystwyth i astudio testunau Cymraeg Canol, gan dderbyn gradd MA am ei draethawd 'The verbal forms in the Mabinogion and Bruts'. Yn y Barri yn 1920 gwobrwywyd ei delyneg 'Gwladys Ddu' a'i soned 'Llanilltud Fawr'. Fodd bynnag, rhoes y gorau i farddoni wrth ymroi i ymchwilio i fywyd a gwaith Iolo a'i benodi yn 1921 yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Yn 1926, cyhoeddwyd traethawd buddugol 1921 o dan y teitl Iolo Morganwg a Chywyddau'r Ychwanegiad. Yn 1948 ymddangosodd Traddodiad Llenyddol Morgannwg, ac yn 1956, ar ôl astudio papurau ychwanegol a drosglwyddwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol gan Iolo Aneirin Williams, ymddangosodd Iolo Morganwg: y gyfrol gyntaf.Ar ôl ymddeol yn 1957 parhaodd i olygu'r cylchgrawn Llên Cymru, y bu ef yn bennaf gyfrifol am ei sefydlu yn 1950. Yn 1959 traddododd Ddarlith O'Donnell yng ngholegau Prifysgol Cymru ar y testun 'Edward 'Lhuyd'. Beirniadai yn yr Eisteddfod Genedlaethol, darlithiai i gymdeithasau lleol ac yn 1960 etholwyd ef yn llywydd cyntaf yr Academi Gymreig. Bu'n aelod o fwrdd golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru a, rhwng 1959 ac 1961, yn gadeirydd Pwyllgor Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Roedd hefyd yn gasglwr brwd ar hen lyfrau Cymraeg.Priododd ag Elizabeth Elen Roberts, Blaenau Ffestiniog, yn 1922. Bu hi'n gyd-fyfyriwr ag ef yng Ngholeg Aberystwyth rhwng 1910 ac 1914. Bu'n athrawes y Gymraeg yn ysgol sir y merched, Trefforest, Pontypridd, 1914-1918, ac yn ysgol sir Glynebwy, Mynwy, 1918-1922.Bu Elizabeth Williams yn gymorth mawr i'w gŵr yn ei waith ymchwil, ac ymddiddorai hithau, fel yntau, ym mywyd Cymru a'r iaith Gymraeg. Roedd y ddau yn rhan o'r criw bychan yn y dau-ddegau a sefydlodd y Mudiad Cenedlaethol a ddatblygodd wedyn yn Blaid Cymru.Bu Griffith John Williams farw 10 Ionawr 1963, ac Elizabeth Williams, 31 Ionawr 1979.
0 references